Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                         Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt ac mae’n cytuno y byddai wedi bod yn well pe bai’r drafftio yn gyson. Dylai’r cyfeiriad yn rheoliad 3(j) fod yn gyfeiriad at “mharagraff 4 a amnewidir” yn hytrach na “mharagraff 4(a) a amnewidir”. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd y drafftio presennol yn drysu’r darllenydd ac mae felly yn briodol glir.